top of page

Creu partneriaethau i wella'r gymuned drwy addysg a hyfforddiant

Taibach Community Education Centre - Shallow.jpeg
Background Swirls
TNLHF_Welsh_Acknowledgement_Stamp_Colour_JPEG.jpg

Addysg Gymunedol Taibach: O’r gorffennol i’r presennol

Mae gan lawer o bobl yn Port Talbot ac ymhellach i ffwrdd gysylltiad â Chanolfan Addysg Gymunedol Taibach. Efallai aethoch chi neu berthynas i Ysgol Dwyrain a oedd ar y safle tan y 1950au. Efallai aethoch chi i’r clwb ieuenctid, un o’r rai mwyaf hirsefydlog yng Nghymru sy’n dal i fod yn weithredol heddiw. Efallai eich bod chi wedi bod yn rhan o’r ganolfan gymunedol, yn mynd i ddosbarthiadau ffitrwydd neu’n cael cinio yn y caffi. A byddwch chi’n sicr wedi clywed am Richard Burton, aelod sefydlu’r clwb ieuenctid a fu’n ymddangos ar ein llwyfan mewn rhai o’i berfformiadau cyhoeddus cynharaf pan oedd yn ei arddegau. 

​

Rydym wir yn gwerthfawrogi hanes ein hadeilad ac rydym wrth ein boddau i gyhoeddi prosiect treftadaeth newydd sbon i hyrwyddo ei arwyddocâd i’r gymuned leol. Rydym yn adfer hen neuadd yr ysgol a’i llwyfan, gan ei gwneud yn lle croesawgar y gellir ei ddefnyddio i grwpiau lleol y mae angen lle mawr arnynt neu sydd am ddilyn olion traed Richard Burton a chynnal perfformiadau. Rydym hefyd yn adfer yr hen ystafell grochenwaith a byddwn yn ei defnyddio i gynnal cyfres o gyrsiau crefft treftadaeth, gan sicrhau y caiff sgiliau hanfodol eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd yn datblygu amserlen ryngweithiol o’r adeilad lle gall ymwelwyr olrhain hanes y ganolfan a Port Talbot drwy ddilyn llwybr o amgylch y safle. 

​

Yn bwysicach oll, dyma brosiect ar gyfer y gymuned leol. Rydym am gasglu a chadw atgofion o’r safle a sicrhau y caiff y prosiect ei lywio gan anghenion lleol. Byddwn yn cyhoeddi galwad am wirfoddolwyr ac yn gofyn am help wrth ymchwilio i hanes y safle; cadw a digido deunyddiau archifol; cyfweld ag aelodau o’r gymuned; a blaenoriaethu digwyddiadau ar gyfer ein hamserlen ryngweithiol. Darperir hyfforddiant llawn ar bob cam. Rydym hefyd am weithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol, gan gydnabod rôl bwysig mae’r adeilad wedi’i chwarae ym mywydau cenedlaethau o blant a phobl ifanc.

​

Os hoffech chi gofrestru am ddiweddariadau am ein prosiect, gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddolwyr, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr. Fyddwn ni ddim yn rhannu eich manylion gydag unrhyw un arall a gallwch ddatdanysgrifio unrhyw bryd.

Gallwch hefyd gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am y prosiect yn TaibachHeritage@outlook.com

Follow Taibach Heritage Project on social media

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
Port Talbot beach and sea

Mae’r prosiect hwn yn bosib diolch i Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri, Cronfa Ynni Gwyrdd Margam a Chronfa Buddiant Cymunedol Mynydd Brombil.

​

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau aÌ‚ threftadaeth y DU. Gwnaed ‘Addysg Gymunedol Taibach: O’r gorffennol i’r presennol’ yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu i trawsnewid Canolfan Addysg Gymunedol Taibach.

 

YnglÅ·n â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol


Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o dreftadaeth y DU. Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau aÌ‚ threftadaeth. Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. O adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a’r amgylchedd naturiol, i gasgliadau, traddodiadau, straeon a mwy. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad aÌ‚’r gorffennol.

​

https://www.heritagefund.org.uk/cy

South Wales Construction
People's Postcode Lottery, People's Community Trust
The National Lottery Heritage Fund
bottom of page