top of page
  • Facebook
  • X
  • Instagram

Creu partneriaethau i wella'r gymuned drwy addysg a hyfforddiant

Taibach Community Education Centre - Sepia.jpeg
Background Swirls

Memories of Taibach Community Education Centre

Listen to memories from people who have a connection to Taibach Community Education Centre Memories from as far back as 1929! 

​

If you've got memories to share, please contact us!

Ganwyd Leila Rayner ym 1924 a bu’n mynychu Ysgol Dwyrain o bump oed. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu, ac mae’n cofio llefaru barddoniaeth yn y dosbarth. Roedd hi’n dwlu ar chwaraeon ac yn chwarae un gêm a oedd yn cynnwys cerdded gyda photiau blodau ar eu traed! Mae hi hefyd yn cofio pa mor agos oedd llinell y rheilffordd i’r adeilad; byddant bob amser yn gwybod ai trên i deithwyr neu drên lo oedd hi gan fod y trenau i deithwyr yn gyflymach.

​

Gwrandewch ar Leila yn siarad am ddysgu Cymraeg yn Ysgol Dwyrain, a’r rôl oedd gan yr unig ddisgybl ag oriawr.

Ganwyd Garfield Griffiths ym 1948, gan gael ei fagu yn Nhaibach a mynychu Ysgol Dwyrain. Er iddo fod yn siomedig am beidio â llwyddo yn ei arholiad 11 plws, sylweddolodd pa mor werthfawr oedd ei amser yn Ysgol Dwyrain. Aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel nyrs a darlithydd prifysgol.

​

Gwrandewch ar Garfield yn siarad am fanteision mynychu ysgol fodern uwchradd a safon yr addysgu yn Ysgol Dwyrain.
 

Ganwyd Elwyn Jones ym Margam ym 1946. Mynychodd Ysgol y Groes ac Ysgol Iau Ganolog cyn ymuno ag Ysgol Dwyrain lle arhosodd am ddwy flynedd. Mynychodd y clwb ieuenctid hefyd.

​

Gwrandewch ar Elwyn yn trafod y gweithgareddau a oedd ar gael yn y clwb ieuenctid yn ystod y 1950au.

Ganwyd Sara Rees ym 1975 ac roedd hi’n aelod o Brownies a Guides Aberafan. O 11 oed, cymerodd Sarah ran yn y sioeau criw a gynhaliwyd yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Taibach bob mis Chwefror, ochr yn ochr â grwpiau Brownies a Guides lleol eraill.

​

Gwrandewch ar Sarah yn trafod noson perfformiad sioe criw.

Os hoffech chi gofrestru am y diweddaraf am ein prosiect, gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli, tanysgrifiwch ar gyfer ein cylchlythyr. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw bartïon eraill a gallwch danysgrifio unrhyw bryd.

Gallwch hefyd gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am y prosiect yn TaibachHeritage@outlook.com

Follow Taibach Heritage Project on social media

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
South Wales Construction
People's Postcode Lottery, People's Community Trust
The National Lottery Heritage Fund

Mae Community Ventures Port Talbot CIC yn Gwmni Buddiannau Cymunedol h.y. nid er elw. Company Number: 09702886.

Registered Address: Taibach Community Education Centre, Margam Road, Taibach, Port Talbot, Neath Port Talbot, SA13 2BN

​

Privacy Policy

​

© 2023 by Community Ventures Port Talbot CIC. Website design by With Hindsite Ltd.

bottom of page